Friday, September 02, 2005

Y Podcast Cymraeg cyntaf erioed!

Mor belled a bod fi'n gwybod ta beth. Gyrrwch ebost i rhysdowning@gmail.com os y chi'n anghytuno.

'Falle bod chi di sylwi (os y chi'n darllen. . .) bod dim podcast 'ma. Dyw'r ffaith 'ma ddim di dianc o'n ymwybodoliaeth (yfe gair iawn yw hwna?), ond ges i'r syniad I neud podcast cymraeg mewn tafarn neithiwr, felly bydd eisie peth amynedd i'r holl beth ddod i fodoliaeth.

Y cynllun gwreiddiol oedd podcastio'n gymraeg a chwarae bands cymraeg yn unig. Dyna beth wy'n anelu at yn y tymor hir, ond 'sdim lot o fandiau cymraeg yn bodsaff eto (os y chi mewn band cymraeg, a hoffech gael eich chwarae ar y podcast hyn, neu un arall, rhowch bip i'r Rhwydwaith Gerddoriaeth Bodsaff neu gyrrwch ebost i fi). Felly am y cwpl o bodcasts cynta, na'i chwarae bandiau saesneg, nes bod fi gallu sorto mas pethau hawfraint gyda'n hoff fands cymraeg.

Ta beth, f'enw i yw Rhys Downing - cerddor, a cyn bo hir myfyriwr a podcastiwr. Swi'mai, gobeithio bod chi'n joio'r podcast unwaith bod e'n dechrau.

3 Comments:

Blogger Dafydd Tomos said...

Da iawn, Rhys. Newydd flogio am hyn. Oes gen ti sioeau newydd ar y gweill?

4:28 pm  
Blogger Rhys Wynne said...

Dwi dal ddim 100% yn siwr os dwi'n deall eto be di podcastio :(, ond o leiaf dwi o flaen rhan helaeth o'r boblogaeth ble mae mwy o fobl yn gwybod beth yw ystyr 'dogging' ond ddim beth yw 'blogging' - ffaith trist ond doniol.

8:56 pm  
Blogger Nic said...

Beth yn y byd yw "dogging"?

Na, paid ateb y cwestiwn 'na.

rhys_minion - dw i'n siwr y byddai llawer o fandiau Cymraeg ond yn rhy hapus i ti ddefnyddio eu cerddoriaeth.

9:36 pm  

Post a Comment

<< Home