Tuesday, May 22, 2012

Chwe mlynedd hir yn ddiweddarach!

Dw i'n meddwl am ail-ddechrau'r blog - does dim amser (na chyfleusterau) da fi I bodledu dyddiau hyn, ond mae gen i ryw 'itch' I wneud rhywbeth - unrhywbeth Cymraeg. Fi 'di byw yn Lloeger ers saith mlynedd nawr, tair ohonont yn Llundain, ac ond am aduniadau achlysurol gyda ffrindiau ysgol a wejen sy'n dysgu yn y ganolfan Gymraeg, does gen i ddim allfa am yr hyn oeddwn i arfer cael yn Nhy Tawe, y 'Steddfod, a Maes-E.

Does dim syniad da fi beth allen i sgwenni am i fod yn gwbl onest - o'n i arfer siarad am gerddoriaeth yn y podlediad, ond dw i'n hollol owt of tytch gyda'r 'sin Cymraeg' ddyddie hyn. Gewn ni weld. Rhaid i mi weud, dw i yn cael rhyw foddhad pengam  o weld y linell goch spellchecker yn dangos lan o dan bron i bob gair dw i'n sgwennu. Eniwei - mae'n stats i'n gweud bod y blog di cael ei ymweld a dri deg o weithiau yn y chwe mis diwethaf. Os mai pobl go iawn oedd unrhyw o rhain - cysylltwch a fi drwy'r blog - efallai gai rhai syniadau am sut i gario mlaen gyda'r peth 'ma ddechreues i nol yn haf twym, hir a thrwm dwy fil a phump, a sy di goroesi rhywffordd dros y blynyddoedd wrth i'm mywyd i gario mlaen heb rhoi llawer o feddwl iddo.

Oriau bychan a syniadau dwl - mae'r ddau yn mynd law yn llaw!

Thursday, April 27, 2006

Ymddiheuriadau Mawr! Pennod 5

Nes i recordio hwn ooooeeeesssoedd nol, a fi di bod mor brysur o'n i di anghofio rhoi fe ar y we. Anwybyddwch yr holl gyferiadau i frwydr y bandiau C2, ni i gyd yn gwybod sut wnaeth hwnna droi mas nawr!

Gwrandewch YMA!

Saturday, January 28, 2006

O'r diwedd! Graffiti Cymraeg Pennod 4

Gwrandewch yma

Mae misoedd ar fisoedd di bod ers yr un diwetha. Sori!

Caneuon:

1 The Law of Fives - Dance Tonight Gwefan
2 Radioflyers - Popeth i'r Chwith Gwefan
3 Bill deRome - the Sundial Gwefan
4 Radioflyers - 1984

Mwynhewch!

Thursday, September 15, 2005

Graffiti Cymraeg Episode 3

Cliciwch Yma i wrando.

0:00 Rhagarweiniad - "Brian The Bear" gan The California Girls

3:42 Sioe anrhefnus - esgusodion Rhys!

5:25 "Burn" gan Curious
www.podcastnyc.net

8:33 Stori fach

10:55 "Everything You Do" gan The Suffrajets
www.thesuffrajets.com

14:17 Dim Andrew Lewis!

15:04 'Sneb Yn Gwybod Beth Mae Rhys Mynd I Chwarae, Hyd Yn Oed Rhys!

16:27 "I Need You" gan Adam McIntyre
www.adammcintyre.headphonetreats.com

21:22 Sub Pop Podcast
http://www.subpop.com/syndicate/

21:44 "Arizona" gan The Constantines
www.constantines.ca

26:35 Galwad Ffon annisgwyl

27:18 "Don't Count On Me" gan The Suffrajets

31:06 "Maybe" gan The One You Love

34:13 "Summertime" gan Brother Love
www.brotherloverocks.com

Monday, September 12, 2005

Wythnos Nesa; The Suffrajets, Andrew Lewis

Peth newyddion cyffrous am sioe wythnos nesa. . .

Yn ogystal a'r cymysgedd eang o gerddoriaeth podsaff sydd 'di neud lan rhan fwyaf o'r ddwy sioe gyntaf, fe fydd gen i gwpl o eitemau mwy unigryw i chi erbyn wythnos nesaf. Mae The Suffrajets (www.thesuffrajets.com) ar ganol eu taith dros Brydain ar hyn o bryd, a cwrddais i nhw mewn clwb yn Abertawe ar nos wener. Canlyniad y cyfarfod yma oedd eu bod nhw wedi rhoi promo o'u sengl newydd "Everything You Do" i fi, a chaniatad i'w chwarae ar y podcast. Sticiwch hwnna yn eich piben, iTunes!

Hefyd, fe gawn ni gyfweliad a cherddoriaeth gyda Andrew Lewis, cyn-ganwr Splendigedig ac Adzuki (ie, glywoch chi'n iawn), a fydd yn siarad am ei hanes, ysbrodoliaeth a'i fand newydd.

Newyddion tryst hefyd, mae gen i ofn. Dydd sul nesaf byddai'n symud mas o adref, a dechrau ym mhrifysgol. Fe wnai gario mlaen gyda'r podcast, ond bydd rhaid gweud hwyl fawr i sain clir a manwl, a dechrau recordio ar feic y cyfrifiadur. Felly, joiwch y sain tra bod e'n para.

Laters

Friday, September 09, 2005

Graffiti Cymraeg Episode 2

Gwrandewch yma

Shownotes:
0:00 Rhagarweiniad

0:45 Radio Amgen
www.radioamgen.net

3:12 "Sound Scientist" gan Bill

8:10 Top 5 DVDs cerddoriaeth;
5 MSP - FD GH
4 Dave Gilmour in Concert - Royal Festival Hall
3 Muse - Hullaballoo
2 The Clash - Westway to the world (cyfweliadau a live)
1 Queen - Live at Wembley Stadium

8:35 "Sentenced to Death (By Rock n Roll)" gan The Revolutions
13:00 PSA
www.redcross.org

14:47 Hwyl a sbri - Fi, Steff a Merched Mecca

17:19 "Dreaming of an M16" gan The Shapes

21:17 Diolch i bawb sydd 'di helpu fi gyda'r podcast - clips o Musicians' Cooler ac Andycast
www.coolerpodcasts.com
www.andycast.net

25:23 Y Rhwydwaith Gerddoriaeth Bodsaff
www.podsafemusicnetwork.com

26:06 "Sluttishly Walking Whore" gan Crash Menagerie
www.crashmenagerie.com

30:23 Hwyl Fawr!

30:51 "Postcards From Hell" gan American Heartbreak
www.churchofrockandroll.net

Tuesday, September 06, 2005

Diolch yn fawr i Jammin' Dave

Jyst mo'yn dweud diolch yn fawr i Dave Jackson o'r Musicians' Cooler Podcast am chwarae promo a clip o Graffiti Cymraeg ar ei bodcast, ac am chwarae un o nghaneuon i. Tanysgrifiwch i'r Musicians' Cooler Podcast Yma.