Wythnos Nesa; The Suffrajets, Andrew Lewis
Peth newyddion cyffrous am sioe wythnos nesa. . .
Yn ogystal a'r cymysgedd eang o gerddoriaeth podsaff sydd 'di neud lan rhan fwyaf o'r ddwy sioe gyntaf, fe fydd gen i gwpl o eitemau mwy unigryw i chi erbyn wythnos nesaf. Mae The Suffrajets (www.thesuffrajets.com) ar ganol eu taith dros Brydain ar hyn o bryd, a cwrddais i nhw mewn clwb yn Abertawe ar nos wener. Canlyniad y cyfarfod yma oedd eu bod nhw wedi rhoi promo o'u sengl newydd "Everything You Do" i fi, a chaniatad i'w chwarae ar y podcast. Sticiwch hwnna yn eich piben, iTunes!
Hefyd, fe gawn ni gyfweliad a cherddoriaeth gyda Andrew Lewis, cyn-ganwr Splendigedig ac Adzuki (ie, glywoch chi'n iawn), a fydd yn siarad am ei hanes, ysbrodoliaeth a'i fand newydd.
Newyddion tryst hefyd, mae gen i ofn. Dydd sul nesaf byddai'n symud mas o adref, a dechrau ym mhrifysgol. Fe wnai gario mlaen gyda'r podcast, ond bydd rhaid gweud hwyl fawr i sain clir a manwl, a dechrau recordio ar feic y cyfrifiadur. Felly, joiwch y sain tra bod e'n para.
Laters
0 Comments:
Post a Comment
<< Home