Tuesday, May 22, 2012

Chwe mlynedd hir yn ddiweddarach!

Dw i'n meddwl am ail-ddechrau'r blog - does dim amser (na chyfleusterau) da fi I bodledu dyddiau hyn, ond mae gen i ryw 'itch' I wneud rhywbeth - unrhywbeth Cymraeg. Fi 'di byw yn Lloeger ers saith mlynedd nawr, tair ohonont yn Llundain, ac ond am aduniadau achlysurol gyda ffrindiau ysgol a wejen sy'n dysgu yn y ganolfan Gymraeg, does gen i ddim allfa am yr hyn oeddwn i arfer cael yn Nhy Tawe, y 'Steddfod, a Maes-E.

Does dim syniad da fi beth allen i sgwenni am i fod yn gwbl onest - o'n i arfer siarad am gerddoriaeth yn y podlediad, ond dw i'n hollol owt of tytch gyda'r 'sin Cymraeg' ddyddie hyn. Gewn ni weld. Rhaid i mi weud, dw i yn cael rhyw foddhad pengam  o weld y linell goch spellchecker yn dangos lan o dan bron i bob gair dw i'n sgwennu. Eniwei - mae'n stats i'n gweud bod y blog di cael ei ymweld a dri deg o weithiau yn y chwe mis diwethaf. Os mai pobl go iawn oedd unrhyw o rhain - cysylltwch a fi drwy'r blog - efallai gai rhai syniadau am sut i gario mlaen gyda'r peth 'ma ddechreues i nol yn haf twym, hir a thrwm dwy fil a phump, a sy di goroesi rhywffordd dros y blynyddoedd wrth i'm mywyd i gario mlaen heb rhoi llawer o feddwl iddo.

Oriau bychan a syniadau dwl - mae'r ddau yn mynd law yn llaw!