Tuesday, May 22, 2012

Chwe mlynedd hir yn ddiweddarach!

Dw i'n meddwl am ail-ddechrau'r blog - does dim amser (na chyfleusterau) da fi I bodledu dyddiau hyn, ond mae gen i ryw 'itch' I wneud rhywbeth - unrhywbeth Cymraeg. Fi 'di byw yn Lloeger ers saith mlynedd nawr, tair ohonont yn Llundain, ac ond am aduniadau achlysurol gyda ffrindiau ysgol a wejen sy'n dysgu yn y ganolfan Gymraeg, does gen i ddim allfa am yr hyn oeddwn i arfer cael yn Nhy Tawe, y 'Steddfod, a Maes-E.

Does dim syniad da fi beth allen i sgwenni am i fod yn gwbl onest - o'n i arfer siarad am gerddoriaeth yn y podlediad, ond dw i'n hollol owt of tytch gyda'r 'sin Cymraeg' ddyddie hyn. Gewn ni weld. Rhaid i mi weud, dw i yn cael rhyw foddhad pengam  o weld y linell goch spellchecker yn dangos lan o dan bron i bob gair dw i'n sgwennu. Eniwei - mae'n stats i'n gweud bod y blog di cael ei ymweld a dri deg o weithiau yn y chwe mis diwethaf. Os mai pobl go iawn oedd unrhyw o rhain - cysylltwch a fi drwy'r blog - efallai gai rhai syniadau am sut i gario mlaen gyda'r peth 'ma ddechreues i nol yn haf twym, hir a thrwm dwy fil a phump, a sy di goroesi rhywffordd dros y blynyddoedd wrth i'm mywyd i gario mlaen heb rhoi llawer o feddwl iddo.

Oriau bychan a syniadau dwl - mae'r ddau yn mynd law yn llaw!

1 Comments:

Blogger Rhys Wynne said...

Smai, newydd weld dy neges (sy'n rhai misoedd oed rwan) wedi dilyn linc o wefan

http://cerddoriaeth.rhwyd.org/rhestr/sioe.php

Rhaid i mi gyfaddef, dw i ddim yn llawer o wrandawr podlediadau (ag eithrio ambell raglen ddogfen Radio 4). Dw i ddim yn meddwl bod llawer o sin Cymraeg yn bodoli dyddiau yma, felly ti ddim yn methu lot!

O ran pethau i bodledu amdnaynt, yn arbennig yn Gymraeg, mae gen ti ddewis di-ddiowedd o nieches achos sdim siawns bydd neb arall yn gwneud yr un peth. Adolgu stwff, falle yn canolbwyntio ar Llunden ( pethau fel arddangosfeydd celf, gigs, tafarndai real ale), neu pethau sy ar gael i bawb ble bynnag (llyfr, ffilms, cerddoriaeth, stwff technegol).

Dros amser mae o leiaf 20 podlediad Cymraeg gwahanol wedi bodoli. Dw i ac eraill yn eu casglu yma:
http://hedyn.net/wici/Categori:Podlediad_Cymraeg

Rhys
www.gwenu.com
@rhysw1

2:43 pm  

Post a Comment

<< Home